Hafan

Croeso i wefan Cylch Bedyddwyr Gogledd Teifi. Cylch o chwech o eglwysi sy’n ymestyn o Silian yn ymyl Llambed hyd Frynhafod ym mhentref Gors-goch ydym, ac yn cynnal y dystiolaeth Gristnogol yn ei gwedd Fedyddiedig yn yr ardal wledig hon. Bydd gwybodaeth ynghylch ein gweithgareddau yn ymddangos yma’n gyson, a bydd croeso calonnog i chi ymuno â ni ar eu cyfer.

Pwy ydyn ni?

Ein gweinidog yw’r Parchg D. Densil Morgan

Llywydd y Cylch yw Ms Mair Jones

Ysgrifennydd y Cylch yw Delyth Morgans Phillips

Lleoliad ein capeli

Mae moddi chi ein dilyn ar Twitter neu Facebook