Beth ydym yn ei gredu?

Dyma Ddatganiad o Egwyddor Undeb Bedyddwyr Cymru sy’n sail i’r hyn a gredwn:

  1. Ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist, Duw a amlygwyd yn y cnawd, yw’r unig awdurdod llwyr a hollol mewn materion yn ymwneud â ffydd ac ymarfer, fel y’i mynegwyd yn yr Ysgrythurau Sanctaidd, ac mae gan bob Eglwys ryddid i ddehongli ac i weinyddu Ei Gyfreithiau dan arweiniad yr Ysbryd Glân.
  2. Bedydd Cristnogol yw’r weithred o drochi mewn dŵr y sawl sydd wedi datgan edifeirwch ger bron Duw a ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist a fu farw dros ein pechodau yn ôl yr Ysgrythurau, a gladdwyd ac a atgyfodwyd y trydydd dydd.
  3. Dyletswydd pob disgybl yw tystio’n bersonol i Efengyl Iesu Grist ac i gymryd rhan mewn efengyleiddio’r byd.